Ioan 7:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl hyn bu Iesu'n teithio o amgylch yng Ngalilea. Ni fynnai fynd o amgylch yn Jwdea, oherwydd yr oedd yr Iddewon yn chwilio amdano i'w ladd.

2. Yr oedd gŵyl yr Iddewon, gŵyl y Pebyll, yn ymyl,

3. ac felly dywedodd ei frodyr wrtho, “Dylit adael y lle hwn a mynd i Jwdea, er mwyn i'th ddisgyblion hefyd weld y gweithredoedd yr wyt ti'n eu gwneud.

4. Oherwydd nid yw neb sy'n ceisio bod yn yr amlwg yn gwneud dim yn y dirgel. Os wyt yn gwneud y pethau hyn, dangos dy hun i'r byd.”

5. Nid oedd hyd yn oed ei frodyr yn credu ynddo.

6. Felly dyma Iesu'n dweud wrthynt, “Nid yw'r amser yn aeddfed i mi eto, ond i chwi y mae unrhyw amser yn addas.

7. Ni all y byd eich casáu chwi, ond y mae'n fy nghasáu i am fy mod i'n tystio amdano fod ei weithredoedd yn ddrwg.

8. Ewch chwi i fyny i'r ŵyl. Nid wyf fi'n mynd i fyny i'r ŵyl hon, oherwydd nid yw fy amser i wedi dod i'w gyflawniad eto.”

9. Wedi dweud hyn fe arhosodd ef yng Ngalilea.

10. Ond pan oedd ei frodyr wedi mynd i fyny i'r ŵyl, fe aeth yntau hefyd i fyny, nid yn agored ond yn ddirgel, fel petai.

11. Yr oedd yr Iddewon yn chwilio amdano yn yr ŵyl ac yn dweud, “Ble mae ef?”

12. Yr oedd llawer o sibrwd amdano ymhlith y tyrfaoedd: rhai yn dweud, “Dyn da yw ef”, ond “Na,” meddai eraill, “twyllo'r bobl y mae.”

13. Er hynny, nid oedd neb yn siarad yn agored amdano, rhag ofn yr Iddewon.

14. Pan oedd yr ŵyl eisoes ar ei hanner, aeth Iesu i fyny i'r deml a dechrau dysgu.

15. Yr oedd yr Iddewon yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut y mae gan hwn y fath ddysg, ac yntau heb gael hyfforddiant?”

16. Atebodd Iesu hwy, “Nid eiddof fi yw'r hyn yr wyf yn ei ddysgu, ond eiddo'r hwn a'm hanfonodd i.

Ioan 7