Ioan 6:64-68 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

64. Ac eto y mae rhai ohonoch sydd heb gredu.” Yr oedd Iesu, yn wir, yn gwybod o'r cychwyn pwy oedd y rhai oedd heb gredu, a phwy oedd yr un a'i bradychai.

65. “Dyna pam,” meddai, “y dywedais wrthych na allai neb ddod ataf fi heb i'r Tad beri iddo wneud hynny.”

66. O'r amser hwn trodd llawer o'i ddisgyblion yn eu holau a pheidio mwyach â mynd o gwmpas gydag ef.

67. Yna gofynnodd Iesu i'r Deuddeg, “A ydych chwithau hefyd, efallai, am fy ngadael?”

68. Atebodd Simon Pedr ef, “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti,

Ioan 6