23. Ond yr oedd cychod eraill o Tiberias wedi dod yn agos i'r fan lle'r oeddent wedi bwyta'r bara ar ôl i'r Arglwydd roi diolch.
24. Felly, pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno, na'i ddisgyblion chwaith, aethant hwythau i'r cychod hyn a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu.
25. Fe'i cawsant ef yr ochr draw i'r môr, ac meddent wrtho, “Rabbi, pryd y daethost ti yma?”
26. Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, yr ydych yn fy ngheisio i, nid am ichwi weld arwyddion, ond am ichwi fwyta'r bara a chael digon.
27. Gweithiwch, nid am y bwyd sy'n darfod, ond am y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol. Mab y Dyn a rydd hwn ichwi, oherwydd arno ef y mae Duw y Tad wedi gosod sêl ei awdurdod.”
28. Yna gofynasant iddo, “Beth sydd raid inni ei wneud i gyflawni'r gweithredoedd a fyn Duw?”
29. Atebodd Iesu, “Dyma'r gwaith a fyn Duw: eich bod yn credu yn yr un y mae ef wedi ei anfon.”
30. “Os felly,” meddent wrtho, “pa arwydd a wnei di, i ni gael gweld a chredu ynot? Beth fedri di ei wneud?