Ioan 5:38-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. ac nid oes gennych mo'i air ef yn aros ynoch, oherwydd nid ydych chwi'n credu'r hwn a anfonodd ef.

39. Yr ydych yn chwilio'r Ysgrythurau oherwydd tybio yr ydych fod ichwi fywyd tragwyddol ynddynt hwy. Ond tystiolaethu amdanaf fi y mae'r rhain;

40. eto ni fynnwch ddod ataf fi i gael bywyd.

41. “Y clod yr wyf fi'n ei dderbyn, nid clod dynol mohono.

42. Ond mi wn i amdanoch chwi, nad oes gennych ddim cariad tuag at Dduw ynoch eich hunain.

43. Yr wyf fi wedi dod yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os daw rhywun arall yn ei enw ei hun, fe dderbyniwch hwnnw.

Ioan 5