Ioan 5:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. “Nid wyf fi'n gallu gwneud dim ohonof fy hun. Fel yr wyf yn clywed, felly yr wyf yn barnu, ac y mae fy marn i yn gyfiawn, oherwydd nid fy ewyllys i fy hun yr wyf yn ei cheisio, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i.

31. “Os wyf fi'n tystiolaethu amdanaf fy hun, nid yw fy nhystiolaeth yn wir.

32. Y mae un arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, ac mi wn mai gwir yw'r dystiolaeth y mae ef yn ei thystio amdanaf.

33. Yr ydych chwi wedi anfon at Ioan, ac y mae gennych dystiolaeth ganddo ef i'r gwirionedd.

Ioan 5