Ioan 20:30-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Yr oedd llawer o arwyddion eraill, yn wir, a wnaeth Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, nad ydynt wedi eu cofnodi yn y llyfr hwn.

31. Ond y mae'r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu mai Iesu yw'r Meseia, Mab Duw, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw ef.

Ioan 20