Ioan 2:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Cofiodd ei ddisgyblion eiriau'r Ysgrythur: “Bydd sêl dros dy dŷ di yn fy ysu.”

18. Yna heriodd yr Iddewon ef a gofyn, “Pa arwydd sydd gennyt i'w ddangos i ni, yn awdurdod dros wneud y pethau hyn?”

19. Atebodd Iesu hwy: “Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau fe'i codaf hi.”

Ioan 2