15. Gwaeddasant hwythau, “Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef.” Meddai Pilat wrthynt, “A wyf i groeshoelio eich brenin chwi?” Atebodd y prif offeiriaid, “Nid oes gennym frenin ond Cesar.”
16. Yna traddododd Pilat Iesu iddynt i'w groeshoelio.Felly cymerasant Iesu.
17. Ac aeth allan, gan gario'i groes ei hun, i'r man a elwir Lle Penglog (yn iaith yr Iddewon fe'i gelwir Golgotha).
18. Yno croeshoeliasant ef, a dau arall gydag ef, un ar bob ochr a Iesu yn y canol.
19. Ysgrifennodd Pilat deitl, a'i osod ar y groes; dyma'r hyn a ysgrifennwyd: “Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon.”
20. Darllenodd llawer o'r Iddewon y teitl hwn, oherwydd yr oedd y fan lle croeshoeliwyd Iesu yn agos i'r ddinas. Yr oedd y teitl wedi ei ysgrifennu yn iaith yr Iddewon, ac mewn Lladin a Groeg.
21. Yna meddai prif offeiriaid yr Iddewon wrth Pilat, “Paid ag ysgrifennu, ‘Brenin yr Iddewon’, ond yn hytrach, ‘Dywedodd ef, “Brenin yr Iddewon wyf fi.” ’ ”
22. Atebodd Pilat, “Yr hyn a ysgrifennais a ysgrifennais.”
23. Wedi iddynt groeshoelio Iesu, cymerodd y milwyr ei ddillad ef a'u rhannu'n bedair rhan, un i bob milwr. Cymerasant ei grys hefyd; yr oedd hwn yn ddiwnïad, wedi ei weu o'r pen yn un darn.