Ioan 15:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Myfi yw'r wir winwydden, a'm Tad yw'r gwinllannwr.

2. Y mae ef yn torri i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw'n dwyn ffrwyth, ac yn glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.

3. Yr ydych chwi eisoes yn lân trwy'r gair yr wyf wedi ei lefaru wrthych.

4. Arhoswch ynof fi, a minnau ynoch chwi. Ni all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, heb iddi aros yn y winwydden; ac felly'n union ni allwch chwithau heb i chwi aros ynof fi.

Ioan 15