Ioan 13:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr, ac nid yw'r un a anfonir yn fwy na'r un a'i hanfonodd.

17. Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gweithredwch arnynt.

18. Nid wyf yn siarad amdanoch i gyd. Yr wyf fi'n gwybod pwy a ddewisais. Ond y mae'n rhaid i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: ‘Y mae'r un sy'n bwyta fy mara i wedi codi ei sawdl yn f'erbyn.’

19. Yr wyf fi'n dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu, pan ddigwydd, mai myfi yw.

20. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae'r sawl sy'n derbyn unrhyw un a anfonaf fi yn fy nerbyn i, ac y mae'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i.”

Ioan 13