Ioan 13:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'r sawl sydd wedi ymolchi drosto yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi dim ond ei draed. Ac yr ydych chwi yn lân, ond nid pawb ohonoch.”

11. Oherwydd gwyddai pwy oedd am ei fradychu. Dyna pam y dywedodd, “Nid yw pawb ohonoch yn lân.”

12. Wedi iddo olchi eu traed, ac ymwisgo a chymryd ei le unwaith eto, gofynnodd iddynt, “A ydych yn deall beth yr wyf wedi ei wneud i chwi?

13. Yr ydych chwi'n fy ngalw i yn ‘Athro’ ac yn ‘Arglwydd’, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd dyna wyf fi.

Ioan 13