33. Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros.
34. Yna atebodd y dyrfa ef: “Yr ydym ni wedi dysgu o'r Gyfraith fod y Meseia i aros am byth. Sut yr wyt ti'n dweud, felly, bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu? Pwy yw'r Mab y Dyn yma?”
35. Dywedodd Iesu wrthynt, “Am ychydig amser eto y bydd y goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra bo'r goleuni gennych, rhag i'r tywyllwch eich goddiweddyd. Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle y mae'n mynd.
36. Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch.”Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, aeth Iesu i ffwrdd ac ymguddio rhagddynt.
37. Er iddo wneud cynifer o arwyddion yng ngŵydd y bobl, nid oeddent yn credu ynddo.
38. Cyflawnwyd felly y gair a ddywedodd y proffwyd Eseia:“Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?I bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?”
39. O achos hyn ni allent gredu, oherwydd dywedodd Eseia beth arall:
40. “Y mae ef wedi dallu eu llygaid,ac wedi tywyllu eu deall,rhag iddynt weld â'u llygaid,a deall â'u meddwl, a throi'n ôl,i mi eu hiacháu.”
41. Dywedodd Eseia hyn am iddo weld ei ogoniant; amdano ef yr oedd yn llefaru.
42. Eto i gyd fe gredodd llawer hyd yn oed o'r llywodraethwyr ynddo ef; ond o achos y Phariseaid ni fynnent ei arddel, rhag iddynt gael eu torri allan o'r synagog.
43. Dewisach oedd ganddynt glod gan bobl na chlod gan Dduw.
44. Cyhoeddodd Iesu: “Y mae'r sawl sy'n credu ynof fi yn credu nid ynof fi ond yn yr un a'm hanfonodd i.
45. Ac y mae'r sawl sy'n fy ngweld i yn gweld yr un a'm hanfonodd i.
46. Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch.
47. Os yw rhywun yn clywed fy ngeiriau i ac yn gwrthod eu cadw, nid myfi sy'n ei farnu, oherwydd ni ddeuthum i farnu'r byd ond i achub y byd.
48. Y mae gan y sawl sy'n fy ngwrthod i, ac yn peidio â derbyn fy ngeiriau, un sydd yn ei farnu. Bydd y gair hwnnw a leferais i yn ei farnu yn y dydd olaf.
49. Oherwydd nid ohonof fy hunan y lleferais, ond y Tad ei hun, hwnnw a'm hanfonodd i, sydd wedi rhoi gorchymyn i mi beth a ddywedaf a beth a lefaraf.
50. A gwn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn yr wyf fi'n ei lefaru, felly, rwy'n ei lefaru yn union fel y mae'r Tad wedi dweud wrthyf.”