Ioan 12:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ond gwnaeth y prif offeiriaid gynllwyn i ladd Lasarus hefyd,

11. gan fod llawer o'r Iddewon, o'i achos ef, yn gwrthgilio ac yn credu yn Iesu.

12. Trannoeth, clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i'r ŵyl fod Iesu'n dod i Jerwsalem.

13. Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi:“Hosanna!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd,yn Frenin Israel.”

14. Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig:

15. “Paid ag ofni, ferch Seion;wele dy frenin yn dod,yn eistedd ar ebol asen.”

Ioan 12