1. Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth Iesu i Fethania, lle'r oedd Lasarus yn byw, y dyn yr oedd wedi ei godi oddi wrth y meirw.
2. Yno gwnaethpwyd iddo swper; yr oedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd.
3. A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a'u sychu â'i gwallt. A llanwyd y tŷ gan bersawr yr ennaint.
4. A dyma Jwdas Iscariot, un o'i ddisgyblion, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud,
5. “Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chant o ddarnau arian, a'i roi i'r tlodion?”
6. Ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o'r cyfraniadau yn y god arian oedd yn ei ofal.
7. “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu, “er mwyn iddi gadw'r ddefod ar gyfer dydd fy nghladdedigaeth.
8. Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond nid wyf fi gyda chwi bob amser.”
9. Daeth tyrfa fawr o'r Iddewon i wybod ei fod yno, a daethant ato, nid o achos Iesu yn unig, ond er mwyn gweld Lasarus hefyd, y dyn yr oedd ef wedi ei godi oddi wrth y meirw.
10. Ond gwnaeth y prif offeiriaid gynllwyn i ladd Lasarus hefyd,
11. gan fod llawer o'r Iddewon, o'i achos ef, yn gwrthgilio ac yn credu yn Iesu.
12. Trannoeth, clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i'r ŵyl fod Iesu'n dod i Jerwsalem.
13. Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi:“Hosanna!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd,yn Frenin Israel.”
14. Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig: