Ioan 10:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.

12. Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwâl.

13. Y mae'n ffoi am mai gwas cyflog yw, ac am nad oes ofal arno am y defaid.

14. Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i,

15. yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid.

Ioan 10