Ioan 1:4-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd.

5. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef.

6. Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan.

7. Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo.

8. Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni.

9. Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd.

10. Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono.

11. Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono.

12. Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw,

13. plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw.

14. A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.

Ioan 1