36. ac wrth wylio Iesu'n cerdded heibio meddai, “Dyma Oen Duw!”
37. Clywodd ei ddau ddisgybl ef yn dweud hyn, ac aethant i ganlyn Iesu.
38. Troes Iesu, ac wrth eu gweld yn canlyn, dywedodd wrthynt, “Beth yr ydych yn ei geisio?” Dywedasant wrtho, “Rabbi,” (ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Athro) “ble'r wyt ti'n aros?”
39. Dywedodd wrthynt, “Dewch i weld.” Felly aethant a gweld lle'r oedd yn aros; a'r diwrnod hwnnw arosasant gydag ef. Yr oedd hi tua phedwar o'r gloch y prynhawn.
40. Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a aeth i ganlyn Iesu ar ôl gwrando ar Ioan.
41. Y peth cyntaf a wnaeth hwn oedd cael hyd i'w frawd, Simon, a dweud wrtho, “Yr ydym wedi darganfod y Meseia” (hynny yw, o'i gyfieithu, Crist).
42. Daeth ag ef at Iesu. Edrychodd Iesu arno a dywedodd, “Ti yw Simon fab Ioan; dy enw fydd Ceffas” (enw a gyfieithir Pedr).
43. Trannoeth, penderfynodd Iesu ymadael a mynd i Galilea. Cafodd hyd i Philip, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.”
44. Gŵr o Bethsaida, tref Andreas a Pedr, oedd Philip.
45. Cafodd Philip hyd i Nathanael a dweud wrtho, “Yr ydym wedi darganfod y gŵr yr ysgrifennodd Moses yn y Gyfraith amdano, a'r proffwydi hefyd, Iesu fab Joseff o Nasareth.”
46. Dywedodd Nathanael wrtho, “A all dim da ddod o Nasareth?” “Tyrd i weld,” ebe Philip wrtho.