Iago 1:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ond gofynned mewn ffydd, heb amau, gan fod y sawl sy'n amau yn debyg i don y môr, sy'n cael ei chwythu a'i chwalu gan y gwynt.

9. Dylai'r credadun distadl ymfalchïo pan ddyrchefir ef,

10. ond yr un cyfoethog ymfalchïo pan ddarostyngir ef, oherwydd diflannu a wna hwnnw fel blodeuyn y maes.

11. Bydd yr haul yn codi yn ei wres tanbaid, a bydd y glaswellt yn crino, ei flodeuyn yn syrthio, a thlysni ei wedd yn darfod. Felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yng nghanol ei holl fynd a dod.

12. Gwyn ei fyd y sawl sy'n dal ei dir mewn temtasiwn, oherwydd ar ôl iddo fynd trwy'r prawf fe gaiff, yn goron, y bywyd a addawodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn ei garu ef.

Iago 1