Hosea 9:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yn ôl a welais, bydd Effraim yn gwneud ei feibion yn ysglyfaeth,ac yn dwyn ei blant allan i'r lladdfa.”

14. Dyro iddynt, ARGLWYDD—beth a roddi?Dyro iddynt groth yn erthylu,a bronnau hysbion.

15. “Yn Gilgal y mae eu holl ddrygioni;yno'n wir y rhois fy nghas arnynt.Oherwydd eu gweithredoedd drygionus,gyrraf hwy allan o'm tŷ.Ni charaf hwy ychwaneg;gwrthryfelwyr yw eu holl dywysogion.

16. “Trawyd Effraim.Sychodd eu gwraidd;ni ddygant ffrwyth.Er iddynt eni plant,lladdaf anwyliaid eu crothau.”

Hosea 9