Hosea 8:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “At dy wefus â'r utgorn!Y mae un tebyg i eryr yn erbyn tŷ'r ARGLWYDD,am iddynt dorri fy nghyfamoda gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.

2. Llefant arnaf, ‘O Dduw, yr ydym ni, Israel, yn dy adnabod.’

3. Ffieiddiodd Israel ddaioni;bydd gelyn yn ei ymlid yntau.

4. “Gwnaethant frenhinoedd, ond nid trwof fi;gwnaethant dywysogion, nad oeddwn yn eu hadnabod.Â'u harian a'u haur gwnaethant iddynt eu hunain ddelwau,a hynny er distryw.

5. Ffieiddiais dy lo, Samaria;cyneuodd fy llid yn ei erbyn.

6. Pa hyd y methant ymlanhau yn Israel?Crefftwr a'i gwnaeth;nid yw'n dduw.Dryllir llo Samaria yn chwilfriw.

Hosea 8