Hosea 7:3-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Y maent yn llawenychu'r brenin â'u drygioni,a'r tywysogion â'u celwyddau.

4. Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd,nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi.

5. Ar ddydd gŵyl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin;estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr.

6. Fel ffwrn y mae eu calon yn llosgi gan ddichell;ar hyd y nos bydd eu dicter yn mud losgi;yn y bore bydd yn cynnau fel fflamau tân.

7. Y mae pawb ohonynt yn boeth fel ffwrn, ac ysant eu barnwyr;syrthiodd eu holl frenhinoedd, ac ni eilw yr un ohonynt arnaf.”

8. “Y mae Effraim wedi ymgymysgu â'r cenhedloedd;y mae Effraim fel teisen heb ei throi.

9. Y mae estroniaid yn ysu ei nerth, ac yntau heb wybod;lledodd penwynni drosto, ac yntau heb wybod.

10. Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;eto ni ddychwelant at yr ARGLWYDD eu Duw,ac ni cheisiant ef, er hyn i gyd.

11. “Y mae Effraim fel colomen,yn ffôl a diddeall;galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.

12. Fel yr ânt, lledaf fy rhwyd drostynt,a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr;fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus.

Hosea 7