Hosea 7:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni;y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas,y maent yn awr ger fy mron.

3. Y maent yn llawenychu'r brenin â'u drygioni,a'r tywysogion â'u celwyddau.

4. Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd,nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi.

5. Ar ddydd gŵyl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin;estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr.

Hosea 7