Hosea 7:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Fel yr ânt, lledaf fy rhwyd drostynt,a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr;fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus.

13. Gwae hwy am grwydro oddi wrthyf!Distryw arnynt am wrthryfela yn f'erbyn!Gwaredwn hwy, ond dywedant gelwydd amdanaf.

14. “Ni lefant o ddifrif arnaf, ond dolefant ar eu gwelyau;am ŷd a gwin fe'u hanafant eu hunain, gwrthryfelant yn f'erbyn.

15. Er i mi eu dysgu a nerthu eu breichiau,eto dyfeisiant ddrwg yn f'erbyn.

16. Trônt yn ôl heb lwyddo; y maent fel bwa twyllodrus;syrth eu penaethiaid â'r cleddyf oherwydd haerllugrwydd eu tafodau.Dyma'u dirmyg yng ngwlad yr Aifft.”

Hosea 7