Hosea 6:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Fe'n hadfywia ar ôl deuddydd,a'n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn ei ŵydd.

3. Gadewch inni adnabod, ymdrechu i adnabod, yr ARGLWYDD;y mae ei ddyfodiad mor sicr â'r wawr;daw fel glaw atom, fel glaw gwanwyn sy'n dyfrhau'r ddaear.”

4. “Beth a wnaf i ti, Effraim? Beth a wnaf i ti, Jwda?Y mae dy ffyddlondeb fel tarth y bore, fel gwlith sy'n codi'n gynnar.

5. Am hynny, fe'u drylliais trwy'r proffwydi,fe'u lleddais â geiriau fy ngenau,a daw fy marn allan fel goleuni.

6. Oherwydd ffyddlondeb a geisiaf, ac nid aberth,gwybodaeth o Dduw yn hytrach na phoethoffrymau.

Hosea 6