Hosea 5:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd,syrth Jwda hefyd gyda hwy.

6. Ânt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD,ond heb ei gael—ciliodd oddi wrthynt.

7. Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon.Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd eu rhandiroedd.

8. “Canwch utgorn yn Gibea a thrwmped yn Rama;rhowch floedd yn Beth-afen: ‘Ar dy ôl di, Benjamin!’

9. Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi;mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.

10. Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn;bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.

11. Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn,oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd.

Hosea 5