Hosea 5:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn;bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.

11. Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn,oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd.

12. Byddaf fel dolur crawnllyd i Effraim,ac fel cancr i dŷ Jwda.

13. “Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau,aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr;ond ni all ef eich gwella na'ch iacháu o'ch doluriau.

Hosea 5