Hosea 5:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Clywch hyn, offeiriaid; gwrandewch, dŷ Israel;daliwch sylw, dylwyth y brenin. Arnoch chwi y daw'r farn,am i chwi fod yn fagl yn Mispa ac yn rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor;

2. gwnaethant bwll Sittim yn ddwfn. Ond fe gosbaf fi bawb ohonynt.

3. “Adwaenais Effraim, ac ni chuddiodd Israel ei hun oddi wrthyf;ond yn awr, O Effraim, fe buteiniaist, ac fe'i halogodd Israel ei hun.

4. Ni chaniatâ eu gweithredoedd iddynt droi at eu Duw,am fod ysbryd puteindra o'u mewn, ac nad adwaenant yr ARGLWYDD.”

5. Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd,syrth Jwda hefyd gyda hwy.

6. Ânt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD,ond heb ei gael—ciliodd oddi wrthynt.

7. Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon.Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd eu rhandiroedd.

8. “Canwch utgorn yn Gibea a thrwmped yn Rama;rhowch floedd yn Beth-afen: ‘Ar dy ôl di, Benjamin!’

9. Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi;mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.

10. Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn;bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.

11. Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn,oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd.

12. Byddaf fel dolur crawnllyd i Effraim,ac fel cancr i dŷ Jwda.

13. “Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau,aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr;ond ni all ef eich gwella na'ch iacháu o'ch doluriau.

14. Oherwydd yr wyf fi fel llew i Effraim, ac fel llew ifanc i dŷ Jwda;myfi, ie myfi, a larpiaf, ac af ymaith; cipiaf, ac ni bydd gwaredydd.

15. “Dychwelaf drachefn i'm lle, nes iddynt weld eu bai,a chwilio amdanaf, a'm ceisio yn eu hadfyd.”

Hosea 5