Hosea 2:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”

21. “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD,‘atebaf y nef, ac etyb hithau y ddaear;

22. etyb y ddaear yr ŷd, y gwin a'r olew,ac atebant hwythau Jesreel;

23. ac fe'i heuaf i mi fy hun yn y tir.Gwnaf drugaredd â Lo-ruhama;dywedaf wrth Lo-ammi, “Fy-mhobl wyt ti”,a dywed yntau, “Fy Nuw”.’ ”

Hosea 2