Hosea 13:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Ac yn awr y maent yn pechu ychwaneg;gwnânt iddynt eu hunain ddelw dawdd,eilunod cywrain o arian,y cyfan yn waith crefftwyr.“Aberthwch i'r rhai hyn,” meddant.Pobl yn cusanu lloi!

3. Felly byddant fel tarth y bore,ac fel gwlith yn codi'n gyflym,fel us yn chwyrlïo o'r llawr dyrnu,ac fel mwg trwy hollt.

4. “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd o wlad yr Aifft;nid adwaenit Dduw heblaw myfi,ac nid oedd achubydd ond myfi.

5. Gofelais amdanat yn yr anialwch,yn nhir sychder.

Hosea 13