Hosea 12:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae Effraim yn bugeilio gwynt,ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd;amlhânt dwyll a thrais;gwnânt gytundeb ag Asyria,a dygant olew i'r Aifft.

2. Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda;fe gosba Jacob yn ôl ei ffyrdd,a thalu iddo yn ôl ei weithredoedd.

3. Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd,ac wedi iddo dyfu ymdrechodd â Duw.

4. Ymdrechodd â'r angel a gorchfygu;wylodd a cheisiodd ei ffafr.Ym Methel y cafodd ef,a siarad yno ag ef—

5. ARGLWYDD Dduw y lluoedd,yr ARGLWYDD yw ei enw.

6. A thithau, trwy nerth dy Dduw, dychwel,cadw deyrngarwch a barn,a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.

7. Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrusyn caru gorthrymu.

8. Dywedodd Effraim, “Yn wir, rwy'n gyfoethog,ac enillais olud;yn fy holl enillion ni cheirna drygioni na phechod.”

Hosea 12