Hosea 11:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. “Ni ddychwelant i wlad yr Aifft,ond Asyria fydd yn frenin arnynt,am iddynt wrthod dychwelyd ataf.

6. Chwyrlïa cleddyf yn erbyn eu dinasoedd,a difa byst eu pyrtha'u difetha am eu cynllwynion.

7. Y mae fy mhobl yn mynnu cilio oddi wrthyf;er iddynt alw ar dduw goruchel,ni fydd yn eu dyrchafu o gwbl.

8. “Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim,a'th roi ymaith, Israel?Pa fodd y'th wnaf fel Adma,a'th osod fel Seboim?Newidiodd fy meddwl ynof;enynnodd fy nhosturi hefyd.

9. Ni chyflawnaf angerdd fy llid,ni ddinistriaf Effraim eto;canys Duw wyf fi, ac nid meidrolyn,y Sanct yn dy ganol;ac ni ddof i ddinistrio.

10. “Ânt ar ôl yr ARGLWYDD; fe rua fel llew.Pan rua ef, daw ei blant dan grynu o'r gorllewin;

11. dônt dan grynu fel aderyn o'r Aifft,ac fel colomen o wlad Asyria,a gosodaf hwy eto yn eu cartrefi,” medd yr ARGLWYDD.

12. Amgylchodd Effraim fi â chelwydd,a thŷ Israel â thwyll;ond y mae Jwda'n ymwneud â Duw,ac yn ffyddlon i'r Sanct.

Hosea 11