Hosea 11:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. “Myfi a fu'n dysgu Effraim i gerdded,a'u cymryd erbyn eu breichiau;ond ni fynnent gydnabod i mi eu hiacháu.

4. Tywysais hwy â rheffynnau caredigac â rhwymau cariad;bûm iddynt fel un yn codi'r iau, yn llacio'r ffrwyn,ac yn plygu atynt i'w porthi.

5. “Ni ddychwelant i wlad yr Aifft,ond Asyria fydd yn frenin arnynt,am iddynt wrthod dychwelyd ataf.

6. Chwyrlïa cleddyf yn erbyn eu dinasoedd,a difa byst eu pyrtha'u difetha am eu cynllwynion.

7. Y mae fy mhobl yn mynnu cilio oddi wrthyf;er iddynt alw ar dduw goruchel,ni fydd yn eu dyrchafu o gwbl.

8. “Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim,a'th roi ymaith, Israel?Pa fodd y'th wnaf fel Adma,a'th osod fel Seboim?Newidiodd fy meddwl ynof;enynnodd fy nhosturi hefyd.

Hosea 11