Hosea 11:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Pan oedd Israel yn fachgen fe'i cerais,ac o'r Aifft y gelwais fy mab.

2. Fel y galwn arnynt, aent ymaith oddi wrthyf;aberthent i Baal ac arogldarthu i eilunod.

3. “Myfi a fu'n dysgu Effraim i gerdded,a'u cymryd erbyn eu breichiau;ond ni fynnent gydnabod i mi eu hiacháu.

4. Tywysais hwy â rheffynnau caredigac â rhwymau cariad;bûm iddynt fel un yn codi'r iau, yn llacio'r ffrwyn,ac yn plygu atynt i'w porthi.

5. “Ni ddychwelant i wlad yr Aifft,ond Asyria fydd yn frenin arnynt,am iddynt wrthod dychwelyd ataf.

6. Chwyrlïa cleddyf yn erbyn eu dinasoedd,a difa byst eu pyrtha'u difetha am eu cynllwynion.

Hosea 11