Hosea 1:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab.

9. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Enwa ef Lo-ammi, oherwydd nid ydych yn bobl i mi, na minnau'n Dduw i chwithau.”

10. Bydd nifer plant Israel fel tywod y môr,na ellir ei fesur na'i rifo.Yn y lle y dywedwyd wrthynt, “Nid-fy-mhobl ydych”,fe ddywedir wrthynt, “Meibion y Duw byw”.

11. Cesglir ynghyd blant Jwda a phlant Israel,a gosodant iddynt un pen;dônt i fyny o'r wlad,oherwydd mawr fydd dydd Jesreel.

Hosea 1