Hosea 1:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo.

4. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel,

5. a rhof derfyn ar frenhiniaeth tŷ Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel.”

6. Beichiogodd Gomer eilwaith a geni merch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Enwa hi Lo-ruhama, oherwydd ni wnaf drugaredd mwyach â thŷ Israel, i roi maddeuant iddynt.

7. Ond gwnaf drugaredd â thŷ Jwda, a gwaredaf hwy trwy'r ARGLWYDD eu Duw; ond ni waredaf hwy trwy'r bwa, y cleddyf, rhyfel, meirch na marchogion.”

8. Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab.

Hosea 1