Hosea 1:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gair yr ARGLWYDD at Hosea fab Beeri yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel.

2. Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD.”

3. Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo.

4. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel,

Hosea 1