Hebreaid 7:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Oherwydd nid yw'r Gyfraith wedi dod â dim i berffeithrwydd. Ond yn awr cyflwynwyd i ni obaith rhagorach yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw.

20. Yn awr, ni ddigwyddodd hyn heb i Dduw dyngu llw.

21. Daeth y lleill, yn wir, yn offeiriaid heb i lw gael ei dyngu; ond daeth hwn trwy lw yr Un a ddywedodd wrtho:“Tyngodd yr Arglwydd,ac nid â'n ôl ar ei air:‘Yr wyt ti'n offeiriad am byth.’ ”

22. Yn gymaint â hynny, felly, y mae Iesu wedi dod yn feichiau cyfamod rhagorach.

Hebreaid 7