Hebreaid 6:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ond ein dyhead yw i bob un ohonoch ddangos yr un eiddgarwch ynglŷn â sicrwydd eich gobaith hyd y diwedd.

12. Yr ydym am ichwi beidio â bod yn ddiog, ond yn efelychwyr y rhai sydd drwy ffydd ac amynedd yn etifeddu'r addewidion.

13. Pan roddodd Duw, felly, addewid i Abraham, gan nad oedd ganddo neb mwy i dyngu wrtho, fe dyngodd wrtho'i hun

14. gan ddweud: “Yn wir, bendithiaf di, ac yn ddiau, amlhaf di.”

15. Ac felly, wedi disgwyl yn amyneddgar, fe gafodd yr hyn a addawyd.

Hebreaid 6