Hebreaid 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Am hynny, gadewch inni ymadael â'r athrawiaeth elfennol am Grist, a mynd ymlaen at y tyfiant llawn. Ni ddylem eilwaith osod y sylfaen, sef edifeirwch am weithredoedd meirwon, a ffydd yn Nuw,

2. dysgeidiaeth am olchiadau, arddodiad dwylo, atgyfodiad y meirw, a'r Farn dragwyddol.

3. A mynd ymlaen a wnawn, os caniatâ Duw.

4. Oherwydd y rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofodd o'r rhodd nefol, ac a fu'n gyfrannog o'r Ysbryd Glân,

5. ac a brofodd ddaioni gair Duw a nerthoedd yr oes i ddod—

Hebreaid 6