Hebreaid 12:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Hyd yma, nid ydych wedi gwrthwynebu hyd at waed yn y frwydr yn erbyn pechod,

5. ac yr ydych wedi anghofio'r anogaeth sy'n eich annerch fel plant:“Fy mhlentyn, paid â dirmygu disgyblaeth yr Arglwydd,a phaid â digalonni pan gei dy geryddu ganddo;

6. oherwydd y mae'r Arglwydd yn disgyblu'r sawl y mae'n ei garu,ac yn fflangellu pob un y mae'n ei arddel.”

7. Goddefwch y cwbl er mwyn disgyblaeth; y mae Duw yn eich trin fel plant. Canys pa blentyn sydd nad yw ei dad yn ei ddisgyblu?

8. Ac os ydych heb y ddisgyblaeth y mae pob un yn gyfrannog ohoni, yna bastardiaid ydych, ac nid plant cyfreithlon.

Hebreaid 12