Hebreaid 12:27-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Ond y mae'r geiriau, “Unwaith eto”, yn dynodi bod y pethau a siglir, fel pethau wedi eu creu, i gael eu symud, er mwyn i'r pethau na siglir aros.

28. Felly, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl, gadewch inni fod yn ddiolchgar, a thrwy hynny wasanaethu Duw wrth ei fodd, â pharch ac ofn duwiol.

29. Oherwydd yn wir, tân yn ysu yw ein Duw ni.

Hebreaid 12