Hebreaid 11:34-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel a gyrru byddinoedd yr estron ar ffo.

35. Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad. Cafodd eraill eu harteithio, gan wrthod ymwared er mwyn cael atgyfodiad gwell.

36. Cafodd eraill brofi gwatwar a fflangell, ie, cadwynau hefyd, a charchar.

37. Fe'u llabyddiwyd, fe'u torrwyd â llif, fe'u rhoddwyd i farwolaeth â min y cledd; crwydrasant yma ac acw mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, dan orthrwm a chamdriniaeth,

Hebreaid 11