Hebreaid 11:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Trwy ffydd, pan osodwyd prawf arno, yr offrymodd Abraham Isaac. Yr oedd yr hwn oedd wedi croesawu'r addewidion yn barod i offrymu ei unig fab,

18. er bod Duw wedi dweud wrtho, “Trwy Isaac y gelwir dy ddisgynyddion.”

19. Oblegid barnodd y gallai Duw ei godi hyd yn oed oddi wrth y meirw; ac oddi wrth y meirw, yn wir, a siarad yn ffigurol, y cafodd ef yn ôl.

20. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau ar gyfer pethau i ddod.

21. Trwy ffydd y bendithiodd Jacob, wrth farw, bob un o feibion Joseff, ac addoli â'i bwys ar ei ffon.

22. Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am exodus meibion Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn.

Hebreaid 11