Hebreaid 1:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Am yr angylion y mae'n dweud:“Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd,a'i weinidogion yn fflam dân”;

8. ond am y Mab:“Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol,a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.

9. Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith.Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinioag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.”

10. Y mae hefyd yn dweud:“Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear,a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.

11. Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros;ânt hwy i gyd yn hen fel dilledyn;

12. plygi hwy fel plygu mantell,a newidir hwy fel newid dilledyn;ond tydi, yr un ydwyt,ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd.”

Hebreaid 1