Haggai 2:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. “Bydd gogoniant y tŷ diwethaf hwn yn fwy na'r cyntaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd; “ac yn y lle hwn rhof heddwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

10. Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis yn ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Haggai.

11. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gofynnwch fel hyn i'r offeiriaid am gyfarwyddyd:

12. ‘Os dwg un ym mhlyg ei wisg gig wedi ei gysegru, a gadael i'r wisg gyffwrdd â bara, neu gawl, neu win, neu olew, neu unrhyw fwyd, a fyddant yn gysegredig?’ ” Atebodd yr offeiriaid, “Na fyddant.”

Haggai 2