Haggai 2:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yn awr, ymgryfha, Sorobabel,’ ” medd yr ARGLWYDD, “ ‘ac ymgryfha, Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir,’ ” medd yr ARGLWYDD. “ ‘Gweithiwch, oherwydd yr wyf fi gyda chwi,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd,

5. “ ‘yn unol â'r addewid a wneuthum i chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft. Y mae fy ysbryd yn aros yn eich plith; peidiwch ag ofni.’ ”

6. Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Unwaith eto, ymhen ychydig, yr wyf am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r sychdir,

7. ac ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd; daw trysor yr holl genhedloedd i mewn, a llanwaf y tŷ hwn â gogoniant,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

8. “Eiddof fi yr arian a'r aur,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

9. “Bydd gogoniant y tŷ diwethaf hwn yn fwy na'r cyntaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd; “ac yn y lle hwn rhof heddwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Haggai 2