Habacuc 3:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Â haint allan o'i flaen,a daw pla allan ar ei ôl.

6. Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd;pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu;rhwygir y mynyddoedd hena siglir y bryniau oesol;llwybrau oesol sydd ganddo.

7. Gwelais bebyll Cusan mewn helbula llenni tir Midian yn crynu.

8. A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD?A yw dy lid yn erbyn yr afonydd,a'th ddicter at y môr?Pan wyt yn marchogaeth dy feircha'th gerbydau i fuddugoliaeth,

9. y mae dy fwa wedi ei ddarparua'r saethau'n barod i'r llinyn.SelaYr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd;

10. pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir.Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen;tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.

Habacuc 3