Habacuc 2:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Safaf ar fy nisgwylfa,a chymryd fy safle ar y tŵr;syllaf i weld beth a ddywed wrthyf,a beth fydd ei ateb i'm cwyn.

2. Atebodd yr ARGLWYDD fi:“Ysgrifenna'r weledigaeth,a gwna hi'n eglur ar lechen,fel y gellir ei darllen wrth redeg;

3. oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser—daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball.Yn wir nid oeda; disgwyl amdani,oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.

4. Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid,ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.”

5. Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal;y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol,ac fel marwolaeth yn anniwall,yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hunac yn cynnull ato'r holl bobloedd.

Habacuc 2