Habacuc 1:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. gwawdiant frenhinoedda dirmygant arweinwyr;dirmygant bob amddiffynfa,a gosod gwarchae i'w meddiannu.

11. Yna rhuthrant heibio fel gwynt—dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth.”

12. Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD,fy Nuw sanctaidd na fyddi farw?O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn;O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.

13. Ti, sydd â'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg,ac na elli oddef camwri,pam y goddefi bobl dwyllodrus,a bod yn ddistaw pan fydd y drygionusyn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?

14. Pam y gwnei bobl fel pysgod y môr,fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli?

Habacuc 1