Gweddi Manasse 1:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Tydi, felly, Arglwydd Dduw y cyfiawn,nid i rai cyfiawn yr ordeiniaist edifeirwch,nid i Abraham, Isaac a Jacob, na phechasant yn dy erbyn;ond ordeiniaist edifeirwch i mi, sy'n bechadur,

9. oherwydd lluosocach na thywod y môr yw nifer fy mhechodau i.Amlhaodd fy nhroseddau, O Arglwydd; amlhau a wnaethant,fel nad wyf deilwng i edrych i fyny a syllu ar uchder y nefoedd,gan mor niferus yw fy nghamweddau.

10. Rwy'n wargrwm dan gadwyn drom o haearn,fel na allaf godi fy mhen ar gyfrif fy mhechodau;nid oes imi ymwared,gan imi gyffroi dy ddicter dia gwneud yr hyn sy'n ddrwg yn dy olwg,trwy godi eilunod ffiaidd a phentyrru pethau atgas.

11. Ac yn awr rwy'n darostwng fy nghalon, gan ddeisyf dy diriondeb.

12. Pechadur wyf, O Arglwydd, pechadur,ac yr wyf yn cydnabod fy nhroseddau.

Gweddi Manasse 1